Hosea 13

Mae hi ar ben ar Israel!

1Pan oedd llwyth Effraim yn siarad

roedd pawb yn crynu –
roedd pawb yn ei barchu yn Israel.
Ond buont ar fai yn addoli Baal,
a dyna oedd eu diwedd.
2Ac maen nhw'n dal i bechu!
Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd;
eilunod cywrain wedi eu gwneud o arian –
ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl!
Mae yna ddywediad amdanyn nhw:
“Mae'r bobl sy'n aberthu
yn cusanu teirw!”
3Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore,
neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar;
fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu,
neu fwg sy'n dianc drwy ffenest.
4“Ond fi ydy'r Arglwydd eich Duw,
ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.
Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –
Fi ydy'r unig un sy'n achub!
5Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch,
mewn tir sych, diffaith.
13:5 tir sych, diffaith Buodd Israel yn crwydro yn yr anialwch am 40 mlynedd ar ôl dianc o'r Aifft.
b
6Ond wedi eu bwydo, roedden nhw'n fodlon –
mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch,
ac yna fy anghofio i!
7Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew,
ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
8Bydda i'n ymosod arnyn nhw
fel arth wedi colli ei chenawon;
a'i llarpio nhw fel llew,
neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.
9Dw i'n mynd i dy ddinistrio di, O Israel!
Pwy sydd yna i dy helpu di?
10Ble mae dy frenin,
iddo fe dy achub di?
Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi?
Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’. c
11Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig,
a dw i wedi ei gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth! d
12Mae'r dyfarniad ar Effraim
13:12 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
wedi ei gofnodi,
a'i gosb wedi ei gadw'n saff iddo.
13Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy'n cael babi;
mae'r amser wedi dod, ac mae'r plentyn dwl
yn gwrthod dod allan o'r groth, a byw.
14Ydw i'n mynd i'w hachub nhw o fyd y meirw? f
Ydw i'n mynd i'w rhyddhau o afael marwolaeth?
O farwolaeth! Ble mae dy blâu di?
O fedd! Ble mae dy ddinistr di?
Fydda i'n dangos dim trugaredd!”

Bydd Samaria'n cael ei dinistrio

15Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors,
ond bydd yr Arglwydd yn dod â gwynt poeth y dwyrain
i fyny o gyfeiriad yr anialwch.
Bydd y dŵr yn sychu, a'r ffynhonnau'n diflannu,
a'r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.
16Bydd Samaria
13:16 Samaria Prifddinas Israel.
yn cael ei galw i gyfri
am wrthryfela yn erbyn ei Duw.
Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel,
plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,
a'r gwragedd beichiog yn cael eu rhwygo'n agored. h
Copyright information for CYM